P 25

Ymchwiliad i’r Adolygiad Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Inquiry into the Priorities for the Health, Social Care and Sport Committee

Ymateb gan: Cytûn

Response from: Cytûn


 

CYTUN                                                                                                                                                                                               

SeneddIechyd@cynulliad.cymru

1 Medi 2016

Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

1.   Ysgrifennir yr ymateb hwn ar ran Cytûn – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, yn dilyn ymgynghoriad gyda’n haelodau. Ceir rhestr lawn o’n haelodau yma: http://www.cytun.org.uk/ni.html  Mae ein haelod fudiadau yn cynnwys rhyw 172,000 o aelodau unigol ar draws Cymru, ynghyd â miloedd yn rhagor sy’n cefnogi eglwys leol neu un o’r mudiadau Cristnogol eraill mewn gwahanol ffyrdd.

2.   Rydym yn gyffredinol gefnogol i awgrymiadau cychwynnol y Pwyllgor am ei raglen waith ar gyfer 2016-21, yn enwedig yr ymchwiliad i unigrwydd ymysg pobl hŷn.

3.   Yn ychwanegol, hoffem awgrymu cynnal yn ystod y tymor hwn ymchwiliad i ofal dementia yn y cartref ac mewn lleoliadau preswyl, a ffyrdd o asio darpariaeth anffurfiol gan eglwysi a sefydliadau cymunedol eraill â darpariaeth statudol. Rydym fel eglwysi yn darparu cryn dipyn o ofal atodol anffurfiol i bobl sydd yn byw gyda dementia, ac yn sgîl hynny fe fuom yn cyfrannu at waith Cyngor Gofal Cymru yn llunio canllawiau ar gyfer gweithwyr yn y maes, a rydym yn croesawu’r gwaith a gynhyrchwyd ganddynt. Mae gofal ysbrydol yn bwysig yn y cyd-destun hwn, yn ogystal â gofal corfforol a meddyliol, a chroesawn y gydnabyddiaeth o hynny yn y canllawiau. Credwn y byddai’n fuddiol, ar ôl dwy flynedd o weithredu’r canllawiau hyn, cynnal ymchwiliad ffurfiol i sut y maent yn gweithio a pha welliannau y gellir eu cynnig.

4.   Ar hyd yr un llinellau, hoffem awgrymu yn ystod y tymor ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015 ar ofalwyr di-dâl yn y gymuned. Mynegwyd peth gofid am sut y byddai’r criteria cymhwysedd newydd yn effeithio ar ofalwyr a chredwn y dylid ymchwilio i hyn ar ôl rhyw ddwy flynedd o weithredu’r drefn newydd.

5.   Rydym yn croesawu’r bwriad i ymchwilio i ddibyniaeth ar hap-chwarae. Fe fydd gan ein haelod-fudiad, Y Stafell Fyw, gyfraniad pwysig i’w wneud i’r ymchwiliad hwn yn sgîl ei waith dan yr enw Curo’r Bwci - http://www.livingroom-cardiff.com/beattheodds/beattheodds.html

6.   Rydym yn ymwybodol o faes gwaith eang a phwysig eich Pwyllgor, ac y bydd blaenoriaethu ymhlith yr holl bynciau pwysig a ddaw i’ch sylw yn anodd. Dymunwn yn dda i chi yn eich gwaith ac edrychwn ymlaen at allu eich cynorthwyo, ac at elwa o ffrwyth eich llafur.

xxxx 
Swyddog Polisi

Gellir cyhoeddi’r ymateb hwn yn gyflawn.